Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 11.04 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Allison Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Mary Williams, Cwm Taf Community Health Council Dr Paul Worthington, Cwm Taf Community Health Council Ruth Treharne, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Mark Jeffs (Cynghorwr Arbenigol) Dave Thomas (Cynghorwr Arbenigol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (20 Ebrill 2015)
3 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, Mary Williams, Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf a Dr Paul Worthington, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG.
2.1 Cytunodd Peter Meredith-Smith i ddarparu manylion am nifer y cwynion yn ymwneud â chyfathrebu ac achosion ar draws Cymru pan fo cleifion wedi dioddef o ganlyniad i aildrefnu eu hapwyntiad a chrynodeb, gan CIC, o nifer y materion a godwyd trwy wybodaeth, pryder a chwyn
4 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG.
4.2 Cytunodd Allison Williams i ddarparu:
· Adroddiad diweddaraf y Bwrdd Iechyd sydd yn dangos y tafl-lwybrau o un mis i'r llall ynghyd â chanran y cleifion sydd wedi methu targedau
· Copi o gynllun tair blynedd cyfredol y Bwrdd Iechyd
· Templedi o bob llythyr apwyntiad a roddwyd i gleifion
· Nodyn ar wasanaethau Offthalmoleg o fewn y Bwrdd Iechyd
· Nodyn ar sut y mae cleifion, sydd yn aros am driniaeth ar hyn o bryd, sydd yn symud i ardal y Bwrdd Iechyd o'r tu allan i Gymru, yn cael eu hychwanegu at restrau aros fel nad ydynt o dan anfantais.
· Nodyn ar amserlenni'r gwaith archwilio sy'n cael ei wneud ar apwyntiadau dilynol i gleifion hirdymor (cleifion nad oes ganddynt apwyntiadau dilynol wedi'u trefnu)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.